Mae´r graffiau yn yr adran hon yn defnyddio data a ffigyrau a gasglwyd gan Heddlu Gwent Police a´u coladu gan Adran Beirianneg Diogelwch ar y Ffordd Capita Symonds. Gwnaed hyn ar ran y pum awdurdod lleol yn rhanbarth Gwent. Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol, sydd yn caniatáu i Diogelwch ar y Ffordd Capita Symonds ddefnyddio´r data ar gyfer rhaglen ddiogelwch ar y ffordd y pum awdurdod.
Mae pob un diagram yn dangos data ar gyfer ardaloedd gweinyddol Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen a hefyd yn cynnwys ffigyrau ar gyfer y rhwydwaith traffyrdd a phriffyrdd, sydd yn rhan o gyfrifoldeb Asiantaeth Priffyrdd y Llywodraeth.
Dydy´r setiau data ddim yn cynnwys manylion o ddifrod, dim ond damweiniau, nad ydynt yn cael eu cofnodi´n gynhwysfawr gan yr heddlu. Cesglir y data yn unol â lleoliad y ddamwain gydag anafiad personol, nid yn unol â chyfeiriad post yr unigolion a oedd yn y ddamwain.
Gellir cael setiau llawn o ddata yn rhoi manylion o anafiadau personol i unigolion mewn damweiniau drwy gysylltu â Heddlu Gwent Police, sydd yn cadw perchnogaeth o´r data ac a fydd, o bosib, yn codi am wybodaeth bellach.