Diogelwch yn y Car

Pe digwydd unrhyw wrthdrawiad mae´r perygl y byddwch chi a´ch plentyn yn cael eich lladd neu´ch anafu yn ddifrifol yn cynyddu os nad ydynt yn gwisgo gwregys.

  1. Mae´r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i chi a´ch plentyn wisgo gwregys os oes un ar gael. Gall plant dan dair ond eistedd yn y blaen os ydynt wedi´u gwregysu wrth sedd addas ar gyfer plant.
  2. Hyd yn oed ar gyflymdra isel, gall eich plentyn gynyddu´r risg o anaf os yw mewn sedd na osodwyd yn gywir,.
  3. Diogelwch eich plentyn drwy ddefnyddio sedd gar briodol a osodwyd yn gywir, sydd yn cwrdd â´r safonau diogelwch cyfredol ac sydd yn briodol ar gyfer pwysau a thaldra eich plentyn. Peidiwch byth a defnyddio sedd plentyn ym mlaen car sydd â bagiau awyr.
  4. Nid yw plant i fyny at 11 oed yn ddigon mawr i deithio heb ataliad plentyn o ryw fath hyd nes eu bod tua phum troedfedd (150cm) o daldra. Tan hynny, ni fydd gwregys oedolyn yn ffitio´n ddiogel ac maent yn fwy diogel yn defnyddio sedd addas ar gyfer plentyn.
  5. Mae´n well bod plant llai yn teithio yn y seddi cefn, yn enwedig os oes bagiau awyr ym mhen blaen eich car.
  6. Peidiwch byth a gadael plant i deithio yng nghist car ystâd neu gar hatchback - lluniwyd y rhain i grychu mewn gwrthdrawiad.

Am wybodaeth ar gyfreithiau yn ymwneud â gwregys ymwelwch â:

www.thinkroadsafety.gov.uk
www.thinkseatbelts.com