Diogelwch ar y Beic

Mae beicio yn hwyl ac yn ddull poblogaidd o drafnidiaeth ar gyfer plant yn ogystal â bod yn weithgaredd hamdden i´w fwynhau, a hefyd yn fodd o gadw´n heini ac iach. Fodd bynnag, gall ardaloedd lle mae llawer o adeiladau gydag ystod o rwystrau a llif o draffig prysur wneud beicwyr ifanc neu ddibrofiad yn ddefnyddwyr agored i niwed.

Sut allwch chi wella diogelwch eich plant?

  1. Gwnewch yn siwr bod eich plant yn gwisgo helmed feicio, pob tro y maent reidio´u beic. Bydd hyn yn lleihau´r trawiad mewn unrhyw ddamwain y byddant yn ei dioddef.
  2. Gwnewch yn siwr bod y beic yn eu ffitio - os yw´n rhy fawr neu´n rhy fach, bydd yn anghyffyrddus i´w reidio a hyd yn oed yn fwy anodd ei drafod.
  3. Anogwch nhw i wisgo dillad neu ychwanegiadau sydd o gymorth i eraill ar y ffordd eu gweld (cyfeiriwch art yr adran "Cael Eich Gweld")
  4. Gwnewch ymholiadau i weld a yw ysgol eich plant yn cynnig rhaglen hyfforddiant mewn beicio ar gyfer dysgu diogelwch sylfaenol i ddisgyblion.
  5. Cerbyd ac nid tegan yw beic a ddefnyddir ar yr heol. Mae hyn yn golygu ei fod yn dod o dan reolau Deddf Trafnidiaeth ar y Ffordd. Gwenwch yn siwr bod eich plentyn yn gwybod hyn, eich cyfrifoldeb CHI fel rhiant yw hyn.