Croesi´r Ffordd

Er bod hyn yn beryglus i bawb, mae plant llai yn wynebu risg neilltuol wrth groesi´r ffordd, am nad ydynt wedi datblygu yn llawn eu sgil o amcanu cyflymdra a phellter cerbydau

Sut allwch chi wella diogelwch eich plentyn?

Ewch â nhw allan a dysgwch iddynt sut i groesi´r heol yn ddiogel.

Bydd Cod y Groes Werdd yn gymorth:

  1. Dewch o hyd i fan diogel i groesi.
    (fel mannau croesi ar gyfer cerddwyr neu, os nad oes mannau croesi gerllaw, man lle gallant weld yn glir a lle gall gyrwyr eu gweld nhw).
  2. Stopiwch wrth y cwrbyn yn gyntaf pob amser.
    (neu ymyl yr heol os nad oes yna bafin).
  3. Edrychwch a gwrandewch yn ofalus am draffig o´ch cwmpas.
    (cofiwch, gall traffig fod yng nghudd neu ymddangos o ddreifiau tai ayyb)
  4. Pan nad oes traffig yn agos, cerddwch yn syth ar draws yr heol i´r ochr draw. Daliwch i edrych a gwrando am draffig wrth i chi groesi.

Byddwch yn siwr o ddweud wrth eich plant nad nhw yw´r unig grwp o ddefnyddwyr y ffordd sydd yn agored i niwed. Yn aml nid yw hen bobl yn gweld peryglon mor gyflym ag yr oeddent yn arfer gwneud, felly cynghorwch eich plentyn i fod yn wyliadwrus o´u symudiadau.