Mae misoedd yr Hydref a´r Gaeaf yn adegau pan mae peryglon difrifol yn wynebu pawb sy´n defnyddio´r ffyrdd am ei bod yn anoddach gweld oherwydd bod y dyddiau´n fyrrach a´r nosweithiau´n hirach a´r tywydd yn ddrwg. Mae plant sy´n teithio i´r ysgol yn aml yn gwisgo cotiau tywyll neu wisg ysgol - mae hyn yn ei gwneud yn anodd eu gweld gan eraill sy´n defnyddio´r ffyrdd.
Os yn bosib, prynwch ddillad o liw llachar ar gyfer y dydd. Lliwiau fflwroleuol yw´r lliwiau mwyaf llachar i gyd. Fodd bynnag, wedi iddi dywyllu, dydy lliwiau fflwroleuol damaid gwell na lliwiau eraill. Argymhellir eich bod yn gosod stribedi sy´n adlewyrchu ar ddillad allanol eich plentyn. Neu, gofynnwch iddynt wisgo neu ddal rhywbeth gwyn. Ar gyfer diogelwch yn gyffredinol, dewiswch ddillad neu ychwanegiadau sydd yn cyfuno lliwiau fflwroleuol gyda deunydd sy´n adlewyrchu. Gall pethau sydd o liw llachar fel sgarff, ymbarél, het neu gap fod o gymorth wrth oleuo gwisg ysgol dywyll, felly gofynnwch i´ch plentyn wisgo neu gario rhai o´r rhain.