Os ydych yn ystyried prynu Beic Modur Bitw i’ch plentyn fel tegan newydd, efallai yr hoffech ail feddwl - neu fe allai’r anrheg gostio mwy i chi nag a feddylioch chi. Yn dilyn Dwli’r Dolig am y cerbydau hyn ymhlith plant ac oedolion fel ei gilydd mae’r ddadl am ba mor ddiogel neu gyfreithiol y mae’r rhain wedi rhygnu ymlaen.
Corddwyd y dwli hwn yn rhannol gan y cynnydd aruthrol mewn mewnforiad o gopïau o ansawdd gwael o’r cerbydau dwy olwyn bach iawn hyn, o tua 7000 yn 2001 i 70,000 yn 2004. Yn aml, gwerthir y peiriannau hyn am brisiau isel iawn o gyn lleied â £100, ond fyddan nhw byth o’r ansawdd adeiladu neu â’r nodweddion diogelwch a geir mewn beic yn costio £1000 a mwy a wnaed gan wneuthurwr adnabyddus.
Yn ei hanfod mae Beic Modur Bitw yr hyn y mae’n ei ddweud yw e. Fersiwn graddfa lai o feic maint llawn, yn aml yn defnyddio injan betrol dwy strôc. Mae’r peiriannau hyn nawr yn fwy poblogaidd yn fyd-eang nag erioed.

Mae cyfyngiadau llym ar y sawl a all reidio’r peiriannau hyn, a lle allant gael eu reidio. Mae rhai o’r pethau a allai pob wynebu yn cynnwys:
Gellir ond gyrru Beiciau Motor Bitw a cherbydau tebyg ar dir preifat a hynny gyda chaniatâd y tirfeddiannwr. Mae unrhyw un sy’n torri’r gyfraith yn wynebu erlyniad am fod heb dreth ac yswiriant ac, yn dibynnu ar eu hymddygiad, am yrru yn esgeulus neu’n beryglus. Os yw’r reidiwr yn rhy ifanc i yrru, cedwir unrhyw bwyntiau cosb a roddir gan y llys ar ffeil a’u gweithredu pan fyddant yn ddigon hen i wneud cais am drwydded. Mae’r sawl sydd yn reidio cerbydau bitw ar heolydd, ar bafin a meysydd parcio, gan beryglu cerddwyr, yn torri’r gyfraith ac yn atebol o gael eu heiddo trysoredig wedi’i gipio gan yr heddlu.
Mae’n ofynnol ar i unrhyw un sydd yn defnyddio un o’r cerbydau hyn ar ffordd gyhoeddus fod â thrwydded yrru, yswiriant, treth, MOT a phlatiau rhifau a hefyd i wisgo helmed
Os oes gennych broblem yn eich ardal neu os ydych yn rhiant sydd yn dal yn ansicr o’r gyfraith parthed defnyddio beiciau modur bitw, wnewch chi gysylltu â’ch swyddfa heddlu lleol a fydd yn hapus i’ch cynorthwyo.