Arwain Drwy Esiampl

Y ffordd orau i ddysgu diogelwch ar y ffordd i´ch plant yw drwy ymarfer â nhw. Mae´n bwysig cofio, fodd bynnag, fel bydd eich plentyn yn tyfu bydd y modd y mae´n derbyn gwybodaeth yn newid. Mae plant iau yn dysgu drwy efelychu eraill - yn enwedig eu rhieni, ond mae plant sy´n hyn, yn gyffredinol, yn cael eu dylanwadu gan eu cyfoedion ac yn dueddol o anwybyddu cyngor sydd yn eu gwneud i edrych yn "fabïaidd". Ceisiwch drafod materion diogelwch gyda nhw mewn ffordd resymegol gan egluro rhesymau dros weithredu, peryglon potensial a chanlyniadau posib. Bydd hyn o gymorth iddynt ddysgu sut i adnabod sefyllfaoedd a allai fod yn anniogel. Yn fwy na dim byd, pan rydych yn agos i´r heol gyda´ch plentyn, mae´n bwysig iawn eich bod yn gwneud yr hyn yr ydych yn ei ddweud. Cofiwch eich bod pob amser yn gosod esiampl dda pan rydych allan yn cerdded, beicio neu deithio mewn car gyda´ch plentyn.