“Mae tua 8:50 y bore, mae’n anhrefn llwyr, yr heolydd yn llawn trafnidiaeth a mynediad yr ysgol yn dagfa. Mae peiriannau’n swnllyd, oedolion yn gyrru o gwmpas yn orffwyll yn chwilio am le i barcio. Disgyblion yn gwibio o gwmpas rhwng ceir sydd wedi’u parcio, yn ceisio cyrraedd yr ysgol mewn da bryd!”
Faint o amser sydd cyn i blentyn fod yn rhan o Ddamwain ddifrifol ar y Ffordd?
Efallai y gallwch chi fod o gymorth i’r gymuned leihau’r tebygrwydd o Ddamwain ar y Ffordd drwy ddod yn Swyddog Diogelwch Iau yn eich ysgol?
Mae’r olygfa uchod yn cynrychioli nifer o broblemau y gallech chi fynd i’r afael â nhw. Allwch chi weld beth ydyn nhw?
Fel Swyddog Diogelwch Iau (JRO) eich gwaith chi fyddai cynorthwyo i wneud pawb yn eich ysgol a’ch cymuned yn fwy ymwybodol o beryglon y ffordd fawr. Gallwch wneud hyn drwy drefnu cystadlaethau, addurno byrddau arddangos, siarad mewn gwasanaethau a llunio posteri!
Ar hyn o bryd mae 42 ysgol yn cymryd rhan yng Nghynllun Swyddog Diogelwch Iau yng Ngwent Fawr. Mae ar bob ysgol angen ‘Athro Blaen/ Athrawes Flaen’; dau ddisgybl blwyddyn chwech a dau ddisgybl blwyddyn pump, a gaiff eu henwebu i fod yn Swyddogion Diogelwch iau. Mae hyn yn golygu 168 JRO yng Ngwent!
Os oes gan eich ysgol ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y cynllun rhad hwn, wnewch chi gysylltu â fi, Cydlynydd Swyddogion Diogelwch Iau, Anna Smith ar 01633 463269 neu ebostiwch y Tîm Diogelwch ar y Ffordd drwy dudalen Cysylltwch â Ni yn Stwffordd.