Mae Clwb Traffig Plant ar gyfer plant 3 a 4 phedair blwydd oed, eu rhieni, gofalwyr a’u hathrawon. Mae’n fodd i ddysgu sgiliau pwysig diogelwch ar y ffordd i blant mewn dull sydd yn hwyl ac yn gyffrous. Mae 6 llyfr lliwgar sy’n cael eu gyrru i’r plant drwy’r post pob tri mis.
Diolch i arian gan y Cynulliad Cymraeg a’ch Awdurdod Unedol Lleol mae’r cynllun yn rhad ac am ddim i blant tair blwydd oed yng Ngwent
Sut mae e’n gweithio?
Os yw’ch plentyn wedi’i gofrestru gyda meddyg yng Ngwent, bydd yn derbyn amlen wahoddiad yn awtomatig drwy’r post adeg neu tuag adeg ei ben blwydd yn dair. Bydd hwn yn hawdd ei adnabod am ei fod yn felyn llachar ac yn cario logo Clwb Traffig Plant ar y blaen.
Bydd galw arnoch chi i lenwi’r ffurflen gais fach a’i dychwelyd yn yr amlen rhadbost. Dylai’ch plentyn dderbyn ei lyfr cyntaf o fewn mis. Lluniwyd y llyfrau’n arbennig i gyfateb â datblygiad addysgol, emosiynol a seicolegol y plant, ac felly bydd gweddill y llyfrau’n cael eu gyrru allan yn awtomatig pob tri mis.
Mae’r llyfrau ar gael yn Saesneg a’r Gymraeg - yr unig beth sydd gennych i’w wneud yw llenwi’r bocs ticiau ar y ffurflen gais.
Er mwyn derbyn amlen gofrestru neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y Clwb Traffig Plant yn y Gwent Fwyaf wnewch chi gysylltu â: Anna Smith ar 01633 463269 neu e-bostio.
Am unrhyw ymholiadau pellach am Clwb Traffig Plant wnewch chi gysylltu â: Clwb Traffig Plant, Pin Point, 1-2 Rosslyn Crescent, Harrow, HA1 2SB. Tel: 0870 010 4440. Am unrhyw ymholiadau pellach am Clwb Traffig Plant wnewch chi gysylltu â: Clwb Traffig Plant, Pin Point, 1-2 Rosslyn Crescent, Harrow, HA1 2SB. Ffôn: 0870 010 4440. www.trafficclub.co.uk
Beth os yw mhlant i dros dair blwydd oed?
Gall plant hyn fod yn aelodau o Clwb Traffig Plant, fodd bynnag, efallai bydd galw arnoch chi i dalu’r tanysgrifiad arferol o £9.50. Galwch Clwb Traffig Plant ar 0870 010 4440.