Yn ystod eu blwyddyn gyntaf o yrru mae gyrwyr newydd 4 gwaith yn fwy tebygol o fod mewn gwrthdrawiad. Mae hyn yn aml oherwydd un neu fwy o´r rhesymau canlynol:
- Diffyg profiad - Wrth i brofiad gynyddu mae cyfradd gyrrwr o ddamweiniau hefyd yn gostwng.
- Agwedd - Mae gyrwyr ifanc, gwrywod yn arbennig, yn aml yn rhy hyderus ac yn fwy tebygol o gymryd risg yn nhermau cyflymdra, pasio a phellteroedd canlyn.
- Cysyniad o berygl - Er bod ganddynt sgiliau adweithio rhagorol, mae gyrwyr ifanc yn dueddol o fod yn wan pan ddaw hi i adnabod peryglon potensial neu wrth asesu risg.
- Pwysedd cyfoedion - Mae gyrwyr ifanc yn cario teithwyr wedi’u gorgynrychioli mewn ystadegau ar wrthdrawiadau.
- Cenedl - Mae gyrwyr ifanc gwrywaidd llawer mwy tebygol o dorri cyfreithiau trafnidiaeth.