Llithriad 2

4. Peidiwch yfed a gyrru. Mae unrhyw alcohol, hyd yn oed ychydig bach, yn gallu amharu ar yr amser yr ydych yn ei gymryd i adweithio, felly byddwch yn yrrwr diogel a pheidiwch ag yfed a gyrru.

5. Cymerwch hoe. Credir bod blinder yn ffactor sylweddol mewn mwy na 10% o ddamweiniau ar y ffordd. Arhoswch am hoe am o leiaf 15 munud pob 2 awr yn ystod taith hir.

6. Ceisiwch ragweld. Sylwch a cheisiwch ragweld gweithredoedd defnyddwyr eraill ar y ffordd. Defnyddiwch eich drychau yn aml a pheidiwch anghofio cymryd cipolwg i mewn i´ch man dall cyn newid eich cwrs. Mae plant yn fympwyol; cymerwch ofal ychwanegol y tu allan i ysgolion, yn agos i fysiau neu faniau hufen ia lle gallai plant fod o gwmpas.