1. Cynlluniwch eich taith gan adael hen ddigon o amser ar gyfer cyrraedd. Rhaid osgoi´r pwysedd a´r perygl potensial o ruthro tuag at ben eich taith.
2. Arafwch. Rydych ddwywaith yn debycach o ladd rhywun yr ydych yn ei daro wrth deithio 35 m.y.a. nag a fyddech wrth deithio 30 m.y.a.
3. Diffoddwch eich ffôn symudol wrth deithio. Gall wneud neu dderbyn galwad, hyd yn oed wrth ddefnyddio ffôn lle nad oes angen dwylo, wrthdynnu eich sylw oddi wrth eich gyrru a gallai hynny arwain at ddamwain.