Gwellwch a mireiniwch eich sgiliau drwy gymryd Hyfforddiant Safon Uwch. Mae gan Gwent grwp ffyniannus o Fodurwyr Safon Uwch sydd â chalendr llawn o hyfforddiant a digwyddiadau cymdeithasol.
Fel aelod atodol, byddwch yn derbyn cyngor anffurfiol ond strwythuredig wedi´i ddarparu gan Arsylwyr gwirfoddol y grwp sydd wedi derbyn hyfforddiant lawn. Byddant yn dod gyda chi yn eich cerbyd yn ystod cyfres o deithiau asesu un-awr, rhad. Mae´r rhain, rhan fynychaf, yn cymryd lle yn ystod y bore ar ben wythnos, er y gellir gwneud trefniadau neilltuol os cewch chi´r amserau arferol yn amhosibl. Yn ystod y teithiau asesu bydd yr Arsylwydd yn eich cynorthwyo i ddatblygu eich sgiliau gyrru er mwyn gwneud cynnydd da, diogel. Fel hyn dewch i ddeall yr agwedd systematig tuag at beryglon gyrru; trafod car â chydymdeimlad; gwell arsylwi a thechneg gynllunio da. Yn ystod y cyfnod rhwng y teithiau bydd galw arnoch i arfer y cyngor a dderbynioch - gallwn ni gynghori ond rhaid i´r gwelliant ddod oddi wrthych chi! Beth am fentro ar sesiwn "flasu" yn gyntaf? Mae´r grwp yn cynnig asesiad RHAD "heb ymrwymiad" o´ch sgiliau gyrru sydd ran fynychaf yn argyhoeddi gyrwyr i ymuno fel Aelodau Atodol gan ddechrau paratoi ar gyfer y Prawf Gyrru Safon Uwch.
Am fwy o wybodaeth am Grŵp Gwent o Fodruwyr a Beicwyr Modur Safon Uwch gwiriwch ar www.gwent-advanced-motorists.org