Ia ac Eira
- Mae ia ac eira gwlyb yn gwneud gyrru yn neilltuol o beryglus - gall gymryd hyd at 10 gwaith yn hirach i stopio nag ar heol sych.
- Wrth yrru defnyddiwch y gêr uchaf posib i arbed achosi´r olwyni rhag troelli.
- Gyrrwch gan bwyll, gan osgoi brecio neu sbarduno sydyn.
- Er mwyn gallu brecio heb gloi eich olwynion, ewch i mewn i gêr isel yn gynt nag arfer, gadewch i´ch cyflymdra ostwng a defnyddiwch bedal y brêc gan bwyll.
- Mewn tywydd mawr cariwch esgidiau glaw, rhaw a blanced yn y car rhag ofn i chi gael eich caethiwo dros dro gan yr eira.