Gwregys

Er mwyn eich diogelwch chi a diogelwch eraill, mae´r gyfraith yn mynnu eich bod yn defnyddio gwregys os oes un wedi´i ffitio. Mae ymchwil yn dangos bod gwisgo gwregys yn y sedd flaen yn arbed dros 2,200 o fywydau pob blwyddyn. Mae pawb yn gwybod y dylent wisgo gwregys yn y sedd flaen, ond mae yna nifer o bobl nad ydynt yn sylweddoli pa mor beryglus yw hi o beidio a gwisgo gwregys yn y cefn. Amcangyfrifir bod rhwng 8 a 15 o deithwyr sedd flaen yn cael eu lladd gan deithwyr di-wregys yng nghefn y car. Lluniwyd gwregys i gadw pobl yn eu seddi, gan osgoi neu leihau anafiadau a ddioddefir mewn damwain, i chi ac i eraill, fel y rhai o´ch blaen. Mewn gwrthdrawiad ar 30 m.y.a., os na chewch eich atal, byddwch yn taro´r sedd flaen gyda rhwng 30 a 60 gwaith pwysau eich corff eich hunan. Gall trawiad o´r fath arwain at farwolaeth neu anafiadau difrifol i chi a´r sawl sydd yn eistedd yn y seddi blaen. Rydych hefyd yn debygol o gael eich taflu allan o´r car drwy un o´r ffenestri neu, hyd yn oed, ffenest y to.
 

CRYNODEB O´R PRIF OFYNION CYFREITHIOL AR GYFER GWISGO GWREGYS 

 Y Sedd FlaenY Sedd GefnCyfrifoldeb Pwy ?
Y GyrrwrRhaid ei wisgo os yw wedi´i ffitio Y Gyrrwr
Plentyn o dan 3 mlwydd oedRhaid gwisgo dull priodol o atal plentynRhaid gwisgo dull priodol o atal plentyn os yw ar gael.Y Gyrrwr
Plentyn oed 3 i 11 a llai na 1.5 metr (tua 5 troedfedd mewn taldraRhaid gwisgo dull priodol o atal plentyn os yw ar gael. Os nad yw ar gael rhaid gwisgo gwregys oedolynRhaid gwisgo dull priodol o atal plentyn os yw ar gael. Os nad yw ar gael rhaid gwisgo gwregys oedolyn os yw ar gaelY Gyrrwr
Teithwyr dros 14 mlwydd oedRhaid ei wisgo os ar gaelRhaid ei wisgo os ar gaelTeithiwr

Am fwy o wybodaeth am gyfreithiau gwregys a ffeithiau yn ogystal â gwybodaeth ar seddi plant ymwelwch â www.thinkseatbelts.com neu www.childcarseats.org.uk