Rheolau Tynnu

  • Ni allwch dynnu mwy na ganiateir ar eich trwydded
  • Wrth dynnu trelar fe’ch cyfyngir i beidio â theithio yn gyflymach na 50 mya ar heolydd un lôn, a 60 mya ar heolydd deuol a thraffyrdd a hynny os nad oes cyfyngiadau is mewn grym.
  • Peidiwch gorlwytho eich cerbyd na’ch trelar. Ni ddylech dynnu pwysau’n uwch na’r hyn a argymhellir gan wneuthurwr eich cerbyd. Noder Peidiwch anghofio cyfrif pwysau bagiau a theithwyr

Trelars Bach – Os ydych yn tynnu trelar bach heb freciau, cyfyngir pwysau’r trelar i 50% o bwysau cwrbyn y car neu 750kg pa un bynnag yw’r lleiaf.

Trelars Mawr - Wrth dynnu trelars mawr â breciau, ni ddylai pwysau’r cerbyd (fel brasamcan) fod yn fwy na 85% o bwysau cwrbyn y cerbyd sydd yn tynnu.