Pwysaur Trwyn a Sadrwydd

  • Gan ddefnyddio darn gwastad o bren ar glorian ystafell ymolchi, a than drwyn olwyn y joci gwiriwch “bwysau trwyn” y trelar. Cyfeiriwch at lawlyfr eich trelar a’ch car er mwyn sefydlu “pwysau trwyn” cywir eich trelar. Dywed am y rhan fwyaf o geir ei fod rhwng 50kg a 75kg.
  • Tra bo’r trelar wedi’i lwytho’n gytbwys, bod pwysau’r trwyn yn gywir ac mae’r cyfan oll yn eistedd yn lefel ar yr heol, rydych yn annhebyg o brofi problem o nadreddu. Fodd bynnag, mewn gwyntoedd uchel neu wrth basio cerbydau HGV gall ambell drelar ddechrau nadreddu ac mae’n bosib bod angen sadiwr. Mae´r rhain yn cynyddu’r ffrithiant rhwng y cerbyd sy’n tynnu a’r trelar gan leihau’r tueddiad iddo “siglo’i gwt”.
Pwysaur Trwyn a Sadrwydd