Bachu i fyny

Bachu i fyny
  • Os oes gennych drelar neu garafan neilltuol o drwm y ffordd hawsaf yw bacio’r car i fyny ato.
  • Os ydych mewn man cyfyng ac angen trafod trelar ag echel ddwbl, mae’n haws os codwch yr olwynion blaen oddi ar y llawr gan ddefnyddio’r olwyn joci.

Cam 1 – Cymhwyswch yr olwyn joci fel bod pen y cyplydd tua 2” i 3” uwchben y belen fachu ar gefn y car.

Cam 2 – Wrth facio’r cerbyd i fyny at y trelar mae’n werth cael rhywun i’ch arwain chi, fel bod y bêl o dan ben cyplydd y trelar.

Cam 3 – Gollyngwch yr olwyn joci i lawr a chloi pen y cyplydd ar y bêl, gan sicrhau ei fod wedi’i gloi arno’n iawn. Parhewch i weindio’r olwyn joci er mwyn dod ag e nôl i’w ges allanol. Rhyddhewch y lifer glampio a chodwch yr uned gyfan a’i ail-glampio, cysylltwch y cebl sy’n dod i ffwrdd, neu’r gadwyn sy’n gafael, wrth y bachyn ar y bar tynnu, nid ar y bêl, a chysylltwch y plygiau trydan i’r car.

Cam 4 – Gwnewch yn siwr fod pob un golau yn gweithio, bod y plât rifau ynghlwm wrth gefn y trelar a bod brêc llaw´r trelar bant. Yna, sefwch nôl i weld a yw’r cerbyd a’r trelar yn lefel. Os ydy cefn y car yn rhy isel ac mae pwysau’r trwyn yn gywir ac mae pelen dynnu’r car ar yr uchder iawn, yna naill ai mae gormod o bwysau yng nghefn y car neu mae angen gwella’r sbring hongiad i eitemau cryfach.