Mae ystadegau´n dangos mai prif achos gwrthdrawiadau ar y ffordd yw cyfuniad o gyflymdra amhriodol neu ormodol gyda rhyw fath o amryfusedd dynol. Gyrru´n rhy gyflym oedd un o brif achosion damweiniau traffig ar heolydd mewn ardaloedd lle mae llawer o adeiladau yng Ngwent y llynedd. Ymhellach, mae ymchwil yn dangos bod:
Mae defnyddio cyflymdra yn gyfrifol nid yn unig yn ymwneud â chadw o fewn terfynau gosodedig neu osgoi cosb. Mae´n bwysig eich bod yn defnyddio eich barn gan yrru o fewn eich gallu yn ogystal â chymryd i ystyriaeth cyflwr yr heol. Mae tywyllwch a thywydd anwadal Prydain yn cael effaith ar ba mor bell y gellir gweld a, hefyd, cyflwr y ffyrdd, sy´n golygu bod galw am ofal neilltuol wrth yrru dan yr amodau hyn.
Yn 2004, lladdwyd neu anafwyd 1498 o bobl ar heolydd Gwent. Drwy ddefnyddio´ch barn eich hunan i yrru ar gyflymdra sydd yn gyfreithlon a diogel ar gyfer cyflwr yr heolydd, gallwch ein cynorthwyo ni i arbed y loes a´r dioddef y mae gwrthdrawiadau yn achosi i ddioddefwyr a theuluoedd yn ein hardal.
Cysylltiadau defnyddiol:

1. Tua 1 damwain angheuol allan o 3 ar y ffordd yn gysylltiedig â chyflymdra.
2. Mae 7 allan o bob 10 gyrrwr yn mynd dros ffiniau cyflymdra yn rheolaidd - rhan fynychaf o ryw 5 m.y.a.
3. Mae angen 21 troedfedd (6.4 metr) yn fwy ar gar teulu cyfartalog i stopio os bydd yn teithio ar 35 m.y.a. o gymharu ag un yn teithio ar 30 m.y.a.
4. Os ydych yn taro beiciwr neu gerddwr ar 35 m.y.a. mae grym y trawiad yn cynyddu o fwy na thraen o gymharu â theithio ar 30 m.y.a.
5. Mae gostwng eich cyflymdra ar gyfartaledd o 1 m.y.a yn torri amlder damweiniau o 5 y cant.
6. Ar heolydd trefol mae 76 y cant o geir yn mynd dros ffiniau cyflymdra os yw´r heol yn glir.
Mae defnyddio cyflymdra yn gyfrifol nid yn unig yn ymwneud â chadw o fewn terfynau gosodedig neu osgoi cosb. Mae´n bwysig eich bod yn defnyddio eich barn gan yrru o fewn eich gallu yn ogystal â chymryd i ystyriaeth cyflwr yr heol. Mae tywyllwch a thywydd anwadal Prydain yn cael effaith ar ba mor bell y gellir gweld a, hefyd, cyflwr y ffyrdd, sy´n golygu bod galw am ofal neilltuol wrth yrru dan yr amodau hyn.
Yn 2004, lladdwyd neu anafwyd 1498 o bobl ar heolydd Gwent. Drwy ddefnyddio´ch barn eich hunan i yrru ar gyflymdra sydd yn gyfreithlon a diogel ar gyfer cyflwr yr heolydd, gallwch ein cynorthwyo ni i arbed y loes a´r dioddef y mae gwrthdrawiadau yn achosi i ddioddefwyr a theuluoedd yn ein hardal.
Cysylltiadau defnyddiol:
www.checkyourspeed.org.uk