Mae’r wisg briodol ac ychwanegiadau hefyd yn bwysig. Pob amser gwisgwch:
- Helmed wedi’i chymeradwyo sydd yn ffitio’n ddiogel. Prynwch un arall os yw wedi’i difrodi mewn unrhyw ffordd. Gall helmed wen neu un liwgar fod o gymorth i chi gael eich gweld.
- Dillad da - ac mae hynny´n golygu siaced, trowsus ac esgidiau a menig. Mae´r gorau wedi´u marcio â CE a gallant eich diogelu os dewch oddi ar eich peiriant. Dylai fod yn fflwrolau yn ystod y dydd a bod â stribedi sy´n adlewyrchu ar gyfer reidio gyda´r nos.
- Mae dillad sydd yn eich diogelu´n iawn ym mhob tywydd nid yn unig yn eich gwneud i deimlo´n fwy cyffyrddus, mae hefyd yn eich galluogi i ffocysu mwy ar eich gyrru.
Os ydych yn feiciwr modur profiadol neu yn reidiwr newydd, byddwch yn sylweddoli bod reidio yn galw nid yn unig am sgil wrth drafod eich peiriant ond, hefyd, y gallu i "ddarllen" yr heol.