Cynghorion Diogelwch

Gwyr unrhyw un sydd yn reidio beic modur neu sgwter eu bod yn gallu bod yn gyflymach nag unrhyw ffordd arall o fynd o A i B. Mae eu reidio hefyd yn cyffroi. Ac mae´r gair yn mynd ar led - gyda mwy a mwy o bobl yn cymryd at reidio beiciau modur. Ond gydag amodau trafnidiaeth y dyddiau hyn, mae´n bwysicach nag erioed eich bod yn gallu delio gyda´r annisgwyl.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn:

  • Rhagweld gweithredoedd modurwyr.
  • Effro ac yn sylwgar. Mae hyn yn bwysig pan fyddwch yn mynd i´r afael â chyffyrdd a chylchdroadau; a phan fo galw arnoch i edrych allan am ddefnyddwyr y ffordd sy´n hawdd eu niweidio - plant, cerddwyr, beicwyr a´r sawl sy´n marchogaeth ceffylau.
  • Reidio ar gyflymdra sy´n golygu y gallwch arafu a stopio mewn da bryd. Gall yr annisgwyl ddigwydd. A reidiwch yn unol â chyflwr yr heolydd: arafwch os yw´n wlyb, niwlog neu rewllyd.
  • Gosod eich hun yn y sefyllfa orau un. Rhan fynychaf ar ganol y lôn. Ond ewch i´ch safle ar yr heol mewn da bryd cyn troi i´r dde neu´r chwith, gan ddangos i eraill yr hyn a fwriadwch.
  • Pasio´n ddiogel. Allwch chi weld y peryglon? Oes yna dro neu gyffordd? Allwch chi basio heb gyflymu neu wyro´n ormodol?
  • Cymryd cipolwg "arbed bywyd" dros eich ysgwydd cyn dechrau ar eich symudiad pan bod yn rhaid i chi wybod lle mae gyrwyr eraill a beth maen nhw´n ei wneud.
  • Sicrhau bod eraill yn gallu eich gweld. Gall golau mawr y beic, wedi’i droi i lawr, hyd yn oed mewn golau dydd da, fod yn fodd i chi allu cael eich gweld.