Cyn Dechrau Tynnu
- Gwnewch yn siwr bod trelar y ceffylau yn cael ei gynnal a’i gadw’n rheolaidd. Byddech chi ddim yn gadael eich car yn segur am 11 mis y flwyddyn ac yna’n disgwyl iddo fod yn barod ar gyfer taith o 300-milltir, fyddech chi? Mae teiars a brêcs yn galw am sylw neilltuol.
- Gwnewch yn siwr fod y cerbyd sydd i wneud y tynnu yn iawn. Ydy e’n ddigon trwm ar gyfer y trelar a’r ceffylau yr ydych yn bwriadu tynnu? Yn fwyaf arbennig, gwiriwch ac ail-lenwch hylif yn yr injan a phwysedd y teiars. Mae tynnu trelar yn gosod straen ychwanegol ar unrhyw gerbyd. Caiff rhannau fel yr hongiad, y trawsyriant a’r brêcs amser caled, felly gwnewch yn siwr fod popeth i’r dim cyn cychwyn.
- Byddwch yn ymwybodol y bydd y trelar yn cymryd llawer yn hirach i stopio, cyflymu a throi nag a wna cerbyd ar ei ben ei hun.