Allwch chi fyth fod yn siwr beth mae ceffylau yn mynd i wneud a dyw gyrrwr ymosodol ddim yn tawelu nerfau ceffyl ansicr. Isod mae ychydig o gyngor a allai fod o gymorth os dewch ar draws ceffyl a’i farchog wrth yrru.
- Byddwch bob amser yn barod am geffylau sydd yn cael eu harwain neu eu marchogaeth, yn enwedig ar heolydd gwledig.
- Ar gorneli sy’n gwyro i’r chwith ac ar heolydd gwledig cul cymerwch ofal ychwanegol a chadwch eich cyflymder i lawr.
- Y funud y gwelwch chi geffyl a marchog ar yr heol arafwch a byddwch yn barod i stopio os bydd rhaid.
- Pan fyddwch y tu ôl i geffyl a marchog - rhowch ddigon o le iddynt. Peidiwch ruthro i fynd heibio iddynt! A byddwch yn barod am yr annisgwyl
- Peidiwch â chanu’r corn neu gyflymu’ch injan - mae ceffylau’n ofnus o swn a gallant fynd i banig os yw gyrrwr yn rhy ymosodol.
- Gwyliwch am arwyddion gan farchogion. Wrth droi i’r dde fe fydd y marchog yn lleoli’r ceffyl ar y chwith.
- Pan mae plant yn marchogaeth merlod cymerwch ofal ychwanegol; bydd ddim o’r un profiad ganddyn nhw ac sydd gan oedolyn.
Os am fwy o gyngor am yr hyn y gallwch ei wneud i helpu ceffylau a marchogion wrth yrru, cysylltwch â’r British Horse Society yn y British Horse Society, Stoneleigh Deer Park, Kenilworth, Warwickshire, CV8 2XZ.
Neu, cliciwch ar y cyswllt hwn i’w gwefan, www.bhs.org.uk