Cynggor ar Dynnu

Gall marchogaeth ceffyl ar y briffordd fod yn beryglus iawn. Mae’n bwysig ceisio gwneud y sefyllfa mor ddiogel a bo modd ar gyfer y sawl sy’n marchogaeth, y ceffyl a gyrwyr fel ei gilydd. Dylai’r marchogion fod yn gyfan gwbl ymwybodol o Rheolau’r Ffordd Fawr a’r modd y maent yn eu heffeithio nhw.

Cyn mynd â cheffyl ar y briffordd gwnewch yn siwr

  • Fod yr holl gyfrwy ag ati mewn cyflwr da
  • Eich bod yn gallu rheoli’r ceffyl

Peidiwch byth â mynd ar gefn ceffyl heb gyfrwy neu ffrwyn. Os ydych yn mynd â cheffyl lle mae traffig am y tro cyntaf gallai fod yn syniad da i farchogaeth gyda cheffylau sydd yn llai nerfus, tan y bydd y ceffyl yn fwy hyderus i fynd ar ei ben ei hun.

Wrth farchogaeth ar yr heol mae’n talu ffordd i gofio ambell gyngor syml a fydd o help i’ch cadw chi’n fwy diogel. Dylech:

  • Gadw i’r chwith
  • Gadw’ch dwy law ar yr awenau heblaw am pan fyddwch yn arwyddo
  • Gadw’ch dwy droed yn y gwartholion
  • Beidio a chario unrhyw berson arall
  • Beidio a chario unrhyw beth a allai effeithio ar eich cydbwysedd neu a allai fynd ynghlwm yn yr awenau
  • Gadw ceffyl yr ydych yn ei arwain ar eich ochr chwith
  • Gadw unrhyw geffylau neu farchogion ifanc neu rhai llai profiadol ar yr ochr tu fewn, i ffwrdd o’r traffig.
Cyngor wrth farchogaeth ceffylau
Cyngor wrth farchogaeth ceffylau