Beth i´w Wisgo?

Helmedau

Mae’r Ddeddf Ceffylau (Penwisgoedd Amddiffynnol ar gyfer Marchogion Ifanc) 1990 yn ei gwneud hi’n orfodol bod plant dan 14 mlwydd oed wisgo helmedau amddiffynnol wrth farchogaeth ceffyl ar yr heol. Mae’n gyfrifoldeb ar riant, gwarchodwr, perchennog ceffyl neu’r sawl sydd â gofal am geffyl yn union cyn i blentyn ei farchogaeth, neu rywun sy’n cyflogi plentyn, i sicrhau fod y plentyn yn gwisgo helmed gymeradwy wrth farchogaeth ar yr heol. Nid oes galw ar i blant y grefydd Sikh wneud hynny tra’u bod yn gwisgo twrban. Mae Rheoliadau Ceffylau (Penwisgoedd Amddiffynnol ar gyfer Marchogion Ifanc)1992 yn diffinio helmedau fel rhai sydd yn cydymffurfio ag un o’r canlynol: BS 6473:1984, BS 6473:1987, BS 4472: 1988 neu BS 6863:1989 (ar gyfer beicwyr) neu i safon sydd yn darparu lefel cyfwerth o ddiogelwch. Fodd bynnag, ni ddefnyddir BS 6473 a BS 4472 bellach, a’r safonau cyfredol cymeradwy ar gyfer helmedau i farchogion yw BS EN 1384, PAS 015 ac ASTM F1163. Er bod y rheoliadau yn caniatáu defnyddio helmedau beicio ar gyfer marchogaeth, mae’r BHS a RoSPA yn argymell bod marchogion yn defnyddio helmedau a luniwyd yn benodol ar gyfer marchogaeth ceffylau. Mae’r gyfraith ond yn mynnu bod plant yn gwisgo helmedau wrth farchogaeth ar yr heol; fodd bynnag, argymhellir yn gryf iawn bod pob un sy’n marchogaeth ceffyl (neu’n marchogaeth anifeiliaid ceffylaidd eraill) ar yr heol yn gwisgo helmed.

Amlygrwydd

Dylai pob marchog wisgo dillad sy’n weladwy iawn (fflwroleuol ac adlewyrchol) wrth farchogaeth ar yr heol. Mae bandiau migyrnau fflwroleuol ac adlewyrchol a goleuadau gwarthol yn neilltuol o effeithiol wrth dynnu sylw modurwyr. Mae Rheolau’r Ffordd Fawr (Rheol 36) yn cynghori marchogion i beidio â mynd ar yr heol yn y nos neu pan nad oes modd gweld yn glir. Dylai marchogion sy’n gorfod defnyddio’r heol dan yr amodau hyn wneud yn siwr bod gan y ceffyl fandiau uwchben cyhyrau’r facsen a dylent gario golau sy’n dangos gwyn yn y blaen a choch yn y cefn.

Beth iw Wisgo?
Beth iw Wisgo?

Beth iw Wisgo?
Beth iw Wisgo?