
Gall marchogaeth ceffyl ar y ffordd fawr, gyda’r traffig sydd yn bod y dyddiau hyn, fod yn beryglus iawn. Mae’n bwysig ceisio gwneud y sefyllfa mor ddiogel â phosib ar gyfer y marchogion, y ceffyl a´r gyrwyr ceir fel ei gilydd. Dylai marchogion fod yn gwbl ymwybodol o Reolau’r Ffordd Fawr a sut mae hwnnw’n eu heffeithio nhw cyn mentro mynd ar yr heol. Dylid, hefyd, pryd bynnag y mae modd, osgoi heolydd prysur neu sefyllfaoedd a allai achosi braw neu ofn i’r ceffyl.
Diolch yn fawr i’r British Horse Society am eu holl gymorth wrth osod y canllawiau hyn at ei gilydd. Am fwy o gymorth, neu er mwyn dod o hyd i ganllawiau ar sut i fod yn ddiogel ar yr heolydd wrth farchogaeth, ewch i www.bhs.org.uk