
Mae Trefnyddion Dan Saith (USOs) yn chwarae rôl bwysig iawn wrth addysgu ein plant am y peryglon sydd yn gysylltiedig â´r heol a sut i gadw´ch hun yn ddiogel. Mae eu rôl yn golygu ymweld ag ysgolion babanod a meithrin yn yr ardal a chyflwyno negeseuon diogelwch ar y ffordd mewn dull sydd yn hwylus ond eto´n hysbysu. Defnyddia´r USOs amrywiaeth o gyfarpar gweledol, megis sioeau pypedau, dillad gwisgo i fyny, posteri, a fersiynau bitw o bethau fel croesfannau sebra er mwyn perfformio storïau a chaneuon sydd o gymorth wrth bwysleisio pwyntiau diogelwch.
Mae´r sesiynau difyr llawn gwybodaeth hyn yn gymorth i wneud plant yn fwy ymwybodol o heolydd a´u peryglon o fore oes a´u paratoi ar gyfer yr ysgol Iau lle maent yn fwy tebygol o ddod ar draws traffig ar y ffordd a´r peryglon a ddaw yn sgil hyn. Ar hyn o bryd mae deg USO yn gweithredu drwy Gwent Fawr, pob un â´u hardal . Am fwy o wybodaeth, am raglenni USO sydd yn gweithredu yn eich ardal chi, wnewch chi ebostio´r tîm diogelwch ar y ffordd drwy´r dudalen Cysylltwch â Ni yn Stwffordd.