Mae pedwar awdurdod unedig yng Ngwent nawr yn cynnig cynllun gostyngiadau i drigolion er mwyn annog gyrwyr sydd newydd gymhwyso i gymryd hyfforddiant rhaglen ´Pass Plus´ i yrwyr. Pob mis caiff 10 enillydd lwcus o awdurdodau Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen hanner eu costau cwrs ´Pass Plus´ nôl hyd at £50.
Trefnir y project rhwng Gorffennaf 2006 a Mawrth 2007 a bydd gofyn i´r gyrwyr ifanc fynychu sesiwn theori tair awr a sesiwn wyth awr `o brofiad gyrru car ar y ffyrdd´ yng nghwmni Hyfforddwr Gyrru Cymwys sy´n rhan o´r Cynllun Pass Plus.
Mae´r cynllun Pass Plus yn cynnwys chwe modwl arbennig sy´n sôn am:
Mae´r cwrs hefyd yn sôn am yrru amddiffynnol, ymwybyddiaeth peryglon, canolbwyntio, cyflymdra, cyffuriau a gyrru dan ddylanwad alcohol, agwedd ac ymddygiad diogel.
Caiff yr holl gyfranogwyr brofiad gwerthfawr ychwanegol yn ogystal â dysgu medrau gyrru cadarnhaol a fyddai´n cymryd hir i´w dysgu fel arall, yng nghwmni hyfforddwr gyrru proffesiynol.
Caiff yr holl yrwyr ifanc sy´n cymryd rhan y cyfle i wella eu medrau gyrru drwy´r cynllun Pass Plus dwys, â chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Yn ogystal â lleihau´r perygl o gael damwain ar y ffordd, bydd y cynllun yn gyfle i chi gael profiad a dysgu medrau gwerthfawr. Bydd pob person sy´n mynychu´r cwrs yn derbyn Tystysgrif Cyflawniad yn ogystal â Thystysgrif Pass Plus ar ei ddiwedd. £40 yw cost y cwrs, wedi´i achredu gan y Driving Standards Agency (DSA), sy´n rhatach o lawer na´r costau arferol rhwng £120 a £150
I fod yn gymwys i fynychu´r cwrs: rhaid i chi fod rhwng 17 a 24 oed Yn meddu ar drwydded yrru lawn Byw yng Nghymru
I gael rhagor o fanylion neu i gofrestru ar-lein, ewch i wefan isod neu ffoniwch 0845 050 4255 i