Recent Events across Mega Drive

Back to Mega Drive

Megadrive

Megadrive
Megadrive

Gosodwyd y cynllun Megadrive i fyny´n wreiddiol yng Ngwent yn 1995 i fynd i´r afael â phroblem ddifrifol iawn, sef bod gyrwyr ifanc mewn canran anghymesur o wrthdrawiadau ar y ffordd, yn bennaf oherwydd eu diffyg profiad. Cyflwynir Megadrive i fyfyrwyr oed coleg sydd yn bwriadu sefyll eu profion gyrru ymarferol yn y dyfodol agos ac efallai nad ydynt yn ymwybodol o´r holl beryglon sydd yn llechu wrth yrru ar heolydd Prydain.

Mae myfyrwyr sydd yn cymryd rhan yn Megadrive yn ymweld â "gweithdai rhyngweithiol" mewn grwpiau o dri lle maent yn dysgu gwybodaeth hanfodol am bynciau sydd yn gysylltiedig â gyrru. Mae´r rhain yn cynnwys:

  • ymwybyddiaeth o berygl
  • dogfenni hanfodol
  • achosion gwrthdrawiadau
  • effeithiau a chanlyniadau diod a chyffuriau
  • prynu car newydd neu ail law
  • yr hyn y dylid ei wneud lle mae gwrthdrawiad

Blwyddyn ar ôl blwyddyn y gweithdai sy´n profi´n fwyaf poblogaidd yw´r rhai lle caiff myfyrwyr gyfle i eistedd yn sedd y gyrrwr. Cânt gyfle i yrru o gwmpas cwrs neilltuol mewn model diweddar o´r Vauxhall Corsa yng nghwmni hyfforddwr gyrru cymwys. Mae hyn yn aml yn rhoi´r blas cyntaf i fyfyrwyr o weld sut beth yw bod y tu ôl i´r olwyn.

Yn ystod ei 10 mlynedd, profodd Megadrive mor boblogaidd mae nawr yn cael ei gynnig ym mhob rhanbarth Heddlu yng Nghymru ac mewn nifer yn Lloegr.

Am fwy o wybodaeth ar Megadrive wnewch chi ebostio´r tîm diogelwch ar y ffordd drwy´r dudalen Cysylltwch â Ni ar Stwffordd.