Hyfforddiant Beicio

Mewn ymgais i wella diogelwch plant sydd yn defnyddio beiciau fel dull o deithio, mae´r pum awdurdod unedol yn Ne Ddwyrain Cymru yn ariannu rhaglenni hyfforddi beicio sydd yn dysgu disgyblion am bwysigrwydd diogelwch gyda beiciau. Mae hyfforddwyr beicio cymwys yn cysylltu â staff ac yn ymweld ag ysgolion er mwyn cyflwyno cyfres o wersi ar bob agwedd o ddiogelwch sylfaenol beicio Mae´r topigau yn cynnwys cynnal a chadw beiciau, pwysigrwydd gwisgo helmedau a diogelwch reidio beiciau ar y ffordd fawr. Mae disgyblion yn cymryd rhan mewn hyfforddiant ymarferol mewn amgylchedd a grëwyd ac a gynhelir i ffwrdd o´r heol er mwyn adeiladu hyder cyn iddynt fentro ar yr heol eu hunain. Cydnabyddir y cwrs fel lefel un o safon genedlaethol hyfforddiant beicio. Ar hyn o bryd mae´r cyngor yn chwilio i mewn i´r potensial o ddarparu cyrsiau lefel dau a thri hefyd, ac fe anelir tuag at gynyddu gwybodaeth beicio plant yn eu harddegau ac oedolion. Am fwy o wybodaeth am unrhyw agwedd o Hyfforddiant Beicio wnewch chi ebosti o´r tîm diogelwch ar y ffordd drwy dudalen Cysylltwch â Ni ar Stwffordd.

Hyfforddiant Beicio