Strategaeth genedlaethol ar gyfer plant sy´n cerdded a ariannir gan Lywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol yw Cwrbgrefft. Wedi´i ddatblygu´n wreiddiol ar Ystadau Drumchapel yn Glasgow, yr Alban, lluniwyd Cwrbgrefft fel modd o leihau´r nifer o blant a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol ar heolydd yr ystâd. Oherwydd ei lwyddiant sylweddol ymestynnwyd y cynllun drwy´r DU. Ym mis Ebrill 2002 dechreuodd Gwent arni, diolch i arian gan Lywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol. Roedd yr ariannu yn caniatáu recriwtio Cydlynwyr Hyfforddi Plant sy´n Cerdded er mwyn gweithredu´r cynlluniau hyn.
Mae Cwrbgrefft yn dysgu plant rhwng 5 a 7 mlwydd oed sut i fod yn gerddwyr diogel drwy fynd â nhw i heolydd go iawn a dangos iddynt sut mae bod yn ddiogel. Mae gwirfoddolwyr a hyfforddwyd gan y Cydlynwyr Hyfforddi Cerddwyr yn mynd â´r plant allan o´r ysgol ac i mewn i sefyllfaoedd go iawn er mwyn cyflwyno´r sgiliau gwerthfawr hyn iddynt. Mae´r plant yn dysgu´r tair prif sgil ar gyfer croesi´r ffordd yn ddiogel:
Caiff pob sgil ei ymarfer mewn amryw leoliadau dros gyfnod o 4 i 6 wythnos mewn cysylltiad â´r ysgol a´i hamserlen.
Mae plant ifanc yn cael eu lladd a´u hanafu ar heolydd yn DDYDDIOL. Profwyd mai hyfforddiant ymarferol ymyl yr heol yw´r ffordd ORAU o helpu plant gadw´n ddiogel pan yn agos i neu yn croesi heolydd. I sicrhau bod llwyddiant Cwrbgrefft yn parhau, mae galw am wirfoddolwyr ym mhob ysgol er mwyn darparu goruchwyliaeth ddigonol ar gyfer plant sydd yn cymryd rhan yn y rhaglen. Os allwch chi sbario 2 awr yr wythnos, i fod yn wirfoddolwr CWRBGREFFT, gallech CHI wneud gwahaniaeth mawr.
Mamau, Tadau, Rhieni Cu, Modrybedd, Ewythrod neu ffrindiau´r ysgol. Caiff gwirfoddolwyr hyfforddiant llawn a chefnogaeth.
Am fwy o wybodaeth am Cwrbgrefft neu am sut y gallwch wirfoddoli wnewch chi gysylltu â´ch Cydlynydd Cwrbgrefft lleol:
| Blaenau Gwent: | Anharad Barrett | 01495 355373 |
| Caerphilly East: | Jessica Dix | 01495 235078 |
| Caerphilly West: | Tracy Plant | 01495 235427 |
| Monmouthshire: | Jayne Haycock | 0779 1181934 |
| Newport: | Catherine Levy | 0787 6356274 |
| Torfaen: | Lesley Rosser | 0787 6356272 |
