Mae gan y Criw Creiddiol le rheolaidd yng nghalendr cwricwlaidd ysgolion drwy Dde Ddwyrain Cymru gyfan. Mae´r rhaglen yn cynnwys Swyddogion Diogelwch ar y Ffordd yn annerch disgyblion Blwyddyn 6 ar sut i gadw´n ddiogel ar neu yn agos i heolydd. Gosodir arddangosfeydd i fyny a chynhelir cyflwyniadau gyda´r bwriad o addysgu myfyrwyr ar agweddau allweddol o ddiogelwch ar y ffordd yn fuan cyn iddynt fynd i´r Ysgol Gyfun, lle maent yn aml iawn yn dod ar draws peryglon newydd ar eu taith feunyddiol i´r ysgol.
Pob blwyddyn mae´r Criw Creiddiol yn canolbwyntio ar amryw ardaloedd o dopig llydan sydd yn neilltuol o berthnasol i ddisgyblion Blwyddyn 6. Yn ystod y flwyddyn ysgol ddiwethaf canolbwyntiodd yr agenda ar y mater o wisgo, a chanlyniadau peidio â gwisgo, gwregys. Cynhwysir materion cwricwlaidd fel cyflymder, pellteroedd stopio a grymoedd yn y cyflwyniadau yn ogystal â thrafodaethau am agweddau cyfreithiol a chyfrifoldebau defnyddio gwregys.
Am fwy o wybodaeth am y Criw Creiddiol wnewch chi ebostio´r tîm diogelwch ar y ffordd drwy dudalen Cysylltwch â Ni yn Stwffordd.
