Clwb Traffig Plant

Mae Clwb Traffig Plant ar gyfer plant 3 a 4 phedair blwydd oed, eu rhieni, gofalwyr a´u hathrawon. Mae´n fodd i ddysgu sgiliau pwysig diogelwch ar y ffordd i blant mewn dull sydd yn hwyl ac yn gyffrous. Mae 6 llyfr lliwgar sy´n cael eu gyrru i´r plant drwy´r post pob tri mis.

Diolch i arian gan y Cynulliad Cymraeg a´ch Awdurdod Unedol Lleol mae´r cynllun yn rhad ac am ddim i blant tair blwydd oed yng Ngwent

Sut mae e´n gweithio?

  • Mae Clwb Traffig y Plant yn bwriadau cynorthwyo lleihau´r nifer o blant sydd yn cael eu hanafu ar ein heolydd pob dydd.
  • Mae´r Clwb ar gyfer plant a´u rhieni, i´w defnyddio gyda´i gilydd.
  • Mae plant 3-4 year blwydd oed yn ddigon hen i ddeall y neges tra´n ddigon ifanc i ddysgu arferion diogel a all bara oes.
  • Mwyaf pwysig i gyd, mae Clwb Traffig Plant yn HWYL, yn lliwgar ac yn anogol - y ffordd orau i unrhyw blentyn ddysgu!

Yr hyn gewch chi pan fyddwch yn ymuno?

  • Mae´r ´pecyn llyfrau´ cyntaf a´r dystysgrif yn cyrraedd yn fuan wedi i´ch plentyn gofrestru. Bydd gweddill y llyfrau yn dilyn yn awtomatig pob tri mis.
  • Mae´r 6 llyfr yn llawn sticeri, lluniau lliwgar i´w trafod, storïau i´w darllen a gweithgareddau hwyl i´w gwneud.
  • Gall aelodau gymryd rhan mewn cystadlaethau rhad er mwyn ennill gwobrau gwych fel Crysau-T, llyfrau lliwio, tapiau caneuon a llawer mwy.

Helpiwch eich plentyn ddysgu drwy:

  • Adrodd y storïau byrion wrthynt tra´u bod yn Edrych ar y lluniau.
  • Siarad am y lluniau a´r storïau a´r hyn y maent yn eu golygu.
  • Gwneud gweithgareddau syml gyda nhw, sydd yn eu hatgoffa o´r prif negeseuon.
  • Eu helpu i Ymarfer yr hyn y maent wedi´i ddysgu pob tro rydych allan gyda´ch gilydd
  • Rhoi Clod iddynt pob tro maent yn cofio.

Yr hyn mae rhieni eraill wedi´i ddweud:

  • ´Rhoddodd lawer o syniadau i fi nad oeddwn i wedi meddwl amdanynt o´r blaen - ffyrdd newydd o ddysgu ac egluro´
  • ´Roedd e´n gwrando ar yr hyn roeddwn i´n ei ddweud gan fy holi - fel arfer dyw e´n gwrando ar neb´
  • ´Mae´n syniad grêt, roedd fy mab yn dwli arno ac yn methu aros am y llyfr nesaf´
  • ´Roedd wedi´i anelu at blant - doedd e ddim yn dechnegol - yn syml ac roedden nhw´n gallu deall y lluniau´

Sut ydw i´n gallu cofrestru fy mhlentyn tair blwydd oed?

Os yw´ch plentyn wedi´i gofrestru gyda meddyg yng Ngwent, bydd yn derbyn amlen wahoddiad yn awtomatig drwy´r post adeg neu tuag adeg ei ben blwydd yn dair. Bydd hwn yn hawdd ei adnabod am ei fod yn felyn llachar ac yn cario logo Clwb Traffig Plant ar y blaen.

Bydd galw arnoch chi i lenwi´r ffurflen gais fach a´i dychwelyd yn yr amlen rhadbost. Dylai´ch plentyn dderbyn ei lyfr cyntaf o fewn mis. Lluniwyd y llyfrau´n arbennig i gyfateb â datblygiad addysgol, emosiynol a seicolegol y plant, ac felly bydd gweddill y llyfrau´n cael eu gyrru allan yn awtomatig pob tri mis.

Mae´r llyfrau ar gael yn Saesneg a´r Gymraeg - yr unig beth sydd gennych i´w wneud yw llenwi´r bocs ticiau ar y ffurflen gais.

Er mwyn derbyn amlen gofrestru neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y Clwb Traffig Plant yn y Gwent Fwyaf wnewch chi gysylltu â: Anna Smith ar 01633 463269 neu e-bostio.

Am unrhyw ymholiadau pellach am Clwb Traffig Plant wnewch chi gysylltu â: Clwb Traffig Plant, Pin Point, 1-2 Rosslyn Crescent, Harrow, HA1 2SB. Tel: 0870 010 4440. Am unrhyw ymholiadau pellach am Clwb Traffig Plant wnewch chi gysylltu â: Clwb Traffig Plant, Pin Point, 1-2 Rosslyn Crescent, Harrow, HA1 2SB. Ffôn: 0870 010 4440. www.trafficclub.co.uk

Beth os yw mhlant i dros dair blwydd oed?

Gall plant hyn fod yn aelodau o Clwb Traffig Plant, fodd bynnag, efallai bydd galw arnoch chi i dalu´r tanysgrifiad arferol o £9.50. Galwch Clwb Traffig Plant ar 0870 010 4440.