Bysiau Cerdded

Wedi´u datblygu´n wreiddiol yn Awstralia a bellach yn lledaenu ar draws y byd, mae bysiau cerdded yn darparu ffordd amgen i´ch plentyn deithio i´r ysgol sydd yn ddiogel, dan oruchwyliaeth ac yn iach.

Mae cysyniad bysiau cerdded yn golygu plant yn cael eu tywys i´r ysgol ar hyd llwybr gosod, gan godi mwy o ´deithwyr´ ar aros fannau bysiau ar hyd y ffordd. Caiff y llinell ei goruchwylio gan o leiaf dau/ddwy o wirfoddolwyr sydd yn gweithredu fel ´gyrrwr´ a ´thywysydd´ ar gyfer y daith i´r ysgol yn y bore ac adref eto ar ddiwedd y dydd. Yn aml fe ddarparir trol i gario bagiau trymion ac offer cerddorol. Yn ogystal â darparu cyfle delfrydol ar gyfer ymarferion dyddiol a lleihau dibyniaeth ar gerbydau modur, mae´r cynllun cerdded yn darparu amgylchedd rhagorol i blant ddysgu sgiliau diogelwch ar y ffordd pwysig iawn, sgiliau na fyddant yn cael eu datblygu, heblaw am hynny, cyn iddynt gyrraedd yr ysgol gyfun.

Am fwy o wybodaeth ar gynlluniau teithio ysgolion a bysiau cerdded sydd yn gweithio yn eich ardal chi, neu os hoffech sefydlu bws cerdded, wnewch chi gysylltu â´r rif priodol isod neu ebostiwch y tîm diogelwch ar y ffordd drwy´r dudalen Cysylltwch â Ni yn Stwffordd.

Tîm Diogelwch ar y Ffordd Blaenau Gwent01633 463276
Susan Davies - Cydlynydd Cynlluniau Teithio Ysgolion Caerffili01495 235402
Abigail Davies - Cydlynydd Cynlluniau Teithio Ysgolion Sir Fynwy01633 644737
Tîm Diogelwch ar y Ffordd Casnewydd01633 463276
Tîm Diogelwch ar y Ffordd Torfaen01633 463276

Bysiau Cerdded