Arolwg Gwregys

Yn ystod ‘Wythnos Diogelwch y Plentyn’ rhwng y 19 a’r 23 o Fehefin, gallech gynnal ‘Arolwg Gwregys’ y tu allan i’ch ysgol. Bydd yr arolwg yn dweud wrthych faint o oedolion a faint o blant sydd yn torri’r gyfraith gan deithio’n anniogel yn eu car!

Mae’n rhwydd iawn:

  • Llwythwch i lawr ac argraffwch bentwr o’r templedi hyn
  • Cydiwch mewn pensel a chlipfwrdd
  • Cydiwch mewn partner; mae pob amser yn haws gyda dau/dwy!
  • Gwnewch yn siwr eich bod eich dau/dwy yn gwisgo rhywbeth fflwroleuol ac adlewyrchol,
  • A sefwch ar y palmant; mewn man diogel, wedi’i gymeradwyo gan eich athrawon, lle gallwch weld yn glir y tu mewn i gerbydau

Yr unig beth sydd i’w wneud nawr yw cofnodi’r dystiolaeth! Dylai un ohonoch chi alw allan yr hyn yr ydych yn ei weld, a’r llall i’w gofnodi ar y daflen; er enghraifft, “Gyrrwr, Yn Gwisgo’ a ‘Sedd gefn, Ddim yn Gwisgo!’ NEU ‘Menyw Ffrynt Tic’ a ‘Merch Cefn Croes!’

Wedi i chi orffen gallech chi adio’r rhifau ac ysgrifennu adroddiad ar gyfer eich Swyddog Diogelwch ar y Ffordd, efallai y caiff ei argraffu yn y papurau lleol!

Lwc Dda a ‘Byddwch Ddiogel a Gweladwy!’

Arolwg Gwregys 1
Arolwg Gwregys 2