Bu cynnydd yn y nifer o ddamweiniau sydd yn cynnwys sgwteri a mopeds yn yr ardal hon yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Dengys hyn os na chaiff y rhain eu gyrru´n gyfrifol gallant fod yn berygl bywyd i´r sawl sydd yn eu reidio ac i eraill ar y ffordd. Fel canlyniad cyflwynodd Diogelwch ar y Ffordd Capita Symonds raglen sydd yn dysgu´r sawl sydd yn cymryd rhan sut i fabwysiadu arferion diogel wrth yrru cerbydau o´r fath.
Fel gyda´n cyrsiau hyfforddi beicio, cynhelir yr hyfforddiant i ffwrdd o heolydd cyhoeddus mewn amgylchedd a grëwyd er sicrhau diogelwch y sawl sydd yn cymryd rhan. Eir â´r myfyrwyr drwy hyfforddiant reidio ymarferol yn ogystal â gwersi wedi´u sylfaeni ar ddamcaniaeth er mwyn gwella´u sgiliau yn gyffredinol. Cynhelir y cwrs dros ddwy flynedd ac fe´i cymerir fel rhan o gwricwlwm TGAU ar gyfer myfyrwyr ysgolion cyfun.
Am fwy o wybodaeth am Addysg Drafnidiaeth wnewch chi ebostio y tîm diogelwch ar y ffordd drwy´r dudalen Cysylltwch â Ni yn Stwffordd.
